Ysgrifennodd Jess Turner, yr ysgrifennydd rhanbarthol newydd (llun uchod), at yr aelodau i siarad am ei blaenoriaethau
Rwy’n teimlo’n gyffrous i fod yn arweinydd newydd UNSAIN yng Nghymru ac rwyf am ddweud helo a disgrifio’r hyn y byddaf yn canolbwyntio arno a sut, gyda’ch cymorth chi, y gallwn sicrhau bod lleisiau aelodau’n cael eu clywed.
Yn fwy nag erioed, yn yr argyfwng costau-byw hwn pan nad yw’n ymddangos bod llywodraethau’n gwrando, mae angen i chi wybod bod eich undeb yn gefn i chi.
Mae tri pheth yn hanfodol i mi yn yr ymgyrchu a wnawn:
• Rydym yn ymwybodol iawn o’r gwaith rhagorol yr ydych yn ei wneud bob dydd, ond mae angen i ni wella ymwybyddiaeth pobl o rôl hanfodol gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus. – yn union fel y gwnaethom yn y pandemig pan ddaeth yn gyffredin i ddiolch i weithwyr hanfodol
• Ni ddylai gwasanaethau cyhoeddus gael eu rhedeg er elw
• Rhaid i herio camwahaniaethu, hyrwyddo mynediad a chyfle cyfartal fod wrth wraidd popeth a wnawn
Menywod yw bron 80% o aelodaeth UNSAIN. Gan weithio ochr-yn-ochr â staff cymorth ysgolion, gweithwyr gofal a staff gofal iechyd dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweld sut mae tlodi mewn gwaith yn niweidio bywydau, ac mae’n warthus bod gwaith ‘benywaidd’ traddodiadol yn parhau i gael ei danbrisio. Gyda’n gilydd, byddwn yn dal ati i herio hyn.
Rwy’n rhiant sy’n gweithio ac rwy’n poeni am ba fath o Gymru yr ydym am i’n plant fyw ynddi a’r gwasanaethau cyhoeddus y byddant yn eu hetifeddu. Credaf hefyd fod angen i ni harneisio egni’r genhedlaeth nesaf o weithwyr i wneud y mudiad undebau yn gryfach. Mae’n rhaid iddyn nhw hefyd weld ymuno ag UNSAIN fel y ffordd orau i gymryd rheolaeth o’u bywydau gwaith, i hybu cydraddoldeb, i herio cyflogwyr gwael ac i ymgyrchu dros gyfiawnder hinsawdd. Rwy’n angerddol dros fynd â’r neges am bwysigrwydd aelodaeth o undebau llafur i ysgolion, fel bod pobl ifanc nid yn unig yn deall ein hanes ond yn gallu helpu i lunio dyfodol undebau yng Nghymru.
Trwy gydol fy 17 mlynedd yn gweithio i UNSAIN mae wedi bod yn fraint cyfarfod â llawer o’n haelodau, ac rwyf bob amser yn rhyfeddu at broffesiynoldeb ac ymrwymiad y rhai sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Rwy’n sylweddoli bod angen i’n hundeb gynnig llais i’r rhai sy’n aml yn cael eu hanwybyddu gan wleidyddion a’r cyfryngau.
Dyna pam ei bod mor bwysig bod ein gwirfoddolwyr – ein rhwydweithiau o gynrychiolwyr – yn dod o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus, i gael llais yn eu gweithle ac wrth benderfynu ar y polisïau sy’n llywio ein gwaith.
Rwyf am i bob aelod deimlo bod ganddynt y grym i chwarae rhan yn UNSAIN yng Nghymru. Waeth pa mor fawr neu fach, mae yna rôl i bob un ohonom.